Kings Arms, Pentyrch

Mae’r adeilad Gradd II rhestredig yn ffermdy tŷ hir a elwid yn Cae Golman ar un adeg.  Mae’r waliau cerrig wedi’u gwyngalchu.  Cerrig llorio sydd tu mewn a gwelir lle tân agored hefyd.  Fe’i sefydlwyd fel tŷ tafarn yn y 18ed ganrif.  Mae trawst siamffrog o 1711 yn y bar.

Mae wedi’i lleoli ar gyrion gogleddol Caerdydd ac mae yno far, lolfa a thy bwyta.  Mae ystafell ddigwyddiadau ar gael hefyd ynghyd  â gardd gwrw a gerddi wedi’u tirlunio.  Defnyddir cynnyrch lleol yn y prydau bwyd.

Mae gwrthrychau pres a chopr yn addurno’r waliau.

Erbyn hyn mae’r lle’n cael ei rhedeg ar y cyd rhwng Brains a bragdy Otley ac felly’n gyrchfan da i ddilynwyr cwrw traddodiadol. Mae seidr lleol, sef Orchard Gold o fragdy Gwynt Y Ddraig yn cael ei werthu yma.

Ar un adeg roedd y King’s Arms yn un o ddwy dafarn leol oedd yn enwog am eu hymrysonnau barddol. Y llall oedd y Collier’s Arms ar y Garth.

Contact details: 

Kings Arms, Church Road, Pentyrch, Caerdydd CF15 9QF

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel