The Albion, Conwy

Wedi’i lleoli o fewn muriau tref Conwy, adeildadwyd yr Albion tua 1925 a nawr mae’n esiampl wych o dafarn o’r 1920au.  Caewyd y dafarn am sawl blwyddyn cyn ei phrynu am £200,000 mewn arwerthiant yn 2012.  Heddiw mae 4 bragdy’n gyfrifiol amdani – Bragdy Purple Moose, Porthmadog, Bragdy Great Orme, Llandudno, Bragdy Conwy a Bragdy’r Nant, Llanrwst.
Does dim bwyd ar gael ac erbyn hyn tafarn y llymeitiwr ydyw a gweinir cwrw traddodiadol o fragdai eraill hefyd.  Gwelir olion dulliau celf ‘art nouveau’.  Mae tri lle tân agored.  Gwariwyd tua £100,000 i adfer yr Albion.

Yn unol â thafarndai’r 1920au does dim bwrdd pŵl na blwch sain yno ond cynigir gêmau bwrdd a phapurau dyddiol.

Yn 2012 ymddangosodd adroddiadau gwych ym mhapurau’r Guardian a’r Telegraph pan gynigwyd mai’r Albion, o bosib, oedd y dafarn orau yn y byd!  Clod ac anrhydedd mawr!
 

Contact details: 

The Albion, Upper Gate Street, Conwy  LL32 8RF
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel