The Cottage Loaf, Llandudno

Mae iddi naws wledig er ei bod yng nghanol y dref.  Dathlodd ei phenblwydd yn ugain oed yn 2011.  Ceir tanllwyth o dân ym misoedd y gaeaf ac agorir gardd gwrw yn yr haf.

Mae wedi ei henwi ar ôl y sgwner ‘Flying Foam’ a longddrylliwyd ger West Shore yn Ionawr 1936.  Gwelir olion decin a mastiau’r sgwner mewn mannau o fewn y dafarn.

Mae cysylltiad agos rhwng y dafarn â Lerpwl gan i’r llawr cerrig ddod o Toxteth a death y llawr pren sydd yn y bar uchaf o ffatri Jins Levi’s y ddinas.    Mae hyd yn oed y llechi’n hannu o Lannau Merswy – o Ysbyty Brenhinol Lerpwl mewn gwirionedd!

Mae cwrw casgen ar werth drwy’r flwyddyn ac ymddangosodd yn y Good Beer Guide 2012.

Ar Facebook.

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel