Dulas Arms, Llanddulas

Adeiladwyd y Dulas Arms tua 1837 ac mae wedi’i lleoli ar arfordir y gogledd nepell o’r A55.  Y Railway Inn oedd ei henw blaenorol.  Adeiladwr a saer o’r enw John Roberts oedd y tafarnwr ym 1895.  Daeth yn dafarn boblogaidd â chwarelwyr yn gyflym iawn.  Ym 1944 newidiodd Mr Phillipps, y tafarnwr, yr enw i Dulas Arms.  Am gyfnod ar ôl yr Ail Rhyfel Byd hi oedd yr unig westy yn yr ardal.

Ym 1879 disgynnodd rhan o’r adeilad mewn llif.  Cariwyd crud baban o’r enw Robert Charles Williams gan y dŵr ond yn ffodus fe’i achubwyd gan fenyw o’r enw Alice Ann Roberts.
Arferai Band Arian Llanddulas ymarfer mewn ystafell i fyny’r grisie.

Daeth Mrs Shirley Thomas yn dafarnwraig drwyddedig ym Mai 1984, y Gymraes cyntaf i gymryd at yr awennau mewn hanner can mlynedd.

Gweinir cwrw traddodiadol a chwisgis da.

Darperir adloniant gan fandiau ac artistiaid lleol.  Mae bwrdd pŵl yno hefyd.
 

Contact details: 

Gwesty Dulas Arms, Abergele Road, Llanddulas, Abergele  LL22 8HP
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel