Ye Olde Castle Inn, Caergwrle

Saif Ye Olde Castle Inn ar gyrion caergwrle ac mae’n dyddio i ddechrau’r ddeunawfed ganrif.  Gwelir carreg yno ac arni’r dyddiad 1732 a’r llythrennau blaen RI ac E1.  To gwellt oedd iddi ar y cychwyn a bryd hynny safai carchar bach gyferbyn.  Am ei bod mor agos i’r brif ffordd bu’r dafarn yn boblogaidd â theithiwyr ac ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd.

O 1871 John Moore, ac yna ei wraig Sarah oedd y tafarnwyr am 30 mlynedd.  Fel sawl tafarnwr arall o’u cenhedlaeth, bu’r ddau yn ffermio 14 erw o dir er mwyn cynyddu eu incwm.  Roedd Mrs Moore wedi darparu  bwyd a lluniaeth i Mr a Mrs Gladstone pan ymwelon nhw â Chaergwrle.
 

Contact details: 

Ye Olde Castle Inn, 1 High Street, Caergwrle, Wrecsam  LL12 9EU
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel