Powys

Lowfield Inn, Marton

Dymchwelwyd yr hen Lowfield  Inn yn 2001 ac fe’i hail agorwyd ym Mawrth 2008 wedi’i hadeiladu gan S. J. Roberts.  Mae nawr yn Dŷ Rhydd.

Wedi’i lleoli ar waelod Rhiw Marton ac yn agos at Gladd Offa.

Gweinir cwrw traddodiadol lleol ac gwinoedd o bedwar ban byd, a gellir eu mwynhau yn yr ardd gwrw eang.

Mae’r atyniadau lleol y cynnwys Cestyll Trefaldwyn a Phowis.
 

The Green Inn, Llangedwyn

Tafarn o’r 17fed ganrif wedi’i lleoli yn nyffryn afon Tanat.  Gwelir trastiau gwreiddiol ynghyd a chasgliad pres o fewn yr adeilad. 

I’r gogledd saif Castell Sycharth, un o brif gartrefi Owain Glyndŵr.  Hefyd, gerllaw mae Gwarchodfa Natur Llyn Fyrnwy.

Ceir dewis o gwrw traddodiadol yn y bar ac mae wedi derbyn Cask Marque am ei ansawdd ers 2002.

Mae seidr hefyd yn ddiod boblogaidd yn ystod misoedd yr haf a gellir ymlacio o fewn yr ardd gwrw eang.
 

The Glanservern Arms, Pantmawr, Llangurig

Seif y Glansevern Arms ar lannau’r afon Wysg â golygfeydd ysblennydd o Bumlumon.  Caiff y gwesteion bysgota  yn y milltir preifat o’r afon sy’n perthyn i’r dafarn.

Ceir adroddiadau da am ei chwrw traddodiadol a chwisgis.
 

New Inn, Llanidloes

Safai’r New Inn ar Short Bridge Street, ond fe’i caewyd a daeth yn safle i Price’s Electrical.  Bu unwaith yn brif dafarn Llanidloes.
 

The George and Dragon, Knighton

Tafarn goets Gradd II sy’n dyddio or 17fed ganrif.  Wedi’i lleoli ger Claedd Offa ac o fewn cerddediad byr i Ganolfan Clawdd Offa.

Mae’r tu fewn yn cynnwys poteli diri ac amrywiaeth o hen greiriau.  Gwelir sawl setl traddodiadol Gymreig yn yr adeilad.

ceir stablau yn y cefnunwaith yn gartref i 20 o geffylau ond nawr maent yn stafelloedd â chyfleusterau.

Ceir cerddoriaeth mwyafrif o Sadyrnau. 
 

The Crown Inn, Montgomery

Mae’r Crown sydd wedi’i lleoli yn nhref marchnad Trefaldwyn yn dyddio i’r 17fed ganrif.  Tafarn draddodiadol â thrawsiau agored a lle tân gwreiddiol.

Chwaraeir pŵl a dartiau yn y bar a cynhelir nosweithiau cerddorol yn rheolaidd.

Gweinir cwrw traddodiadol.

Mae Clawdd Offa a Ffridd Faldwyn o’r Oes Haearn gerllaw.

 

The Corn Exchange, Crickhowell

Mae’r adeilad gwyn hwn yn dyddio i 1693 a saif ar Stryd Fawr, Crughywel.  Rhannwyd yn ddwy gyda’r Bar ar un llaw a’r bwyty ar y llaw arall.

Mae ei safle yn cynnig cyfleoedd gwych i archwilio’r wlad o gwmpas gan gynnwys Mynydd Pen y Fâl sy’n ymestyn 2,000 o droedfeddi uwchben y môr.
 

The Bull Hotel, Presteigne

Mae’r adeilad Gradd II yn dyddio i ddyddiau cynnar y 18fed ganrif.  Saif ger y farchnad a thros y blynyddoedd bu’n sefyliad poblogaidd gyda’r helwyr lleol a cafwyd sawl cinio mawreddog yno.

Gwelir tanau agored yn llosgi yn y lolfa yn ystod misoedd hir y gaeaf.  Mae afon Lugg, gerllaw, yn cynnig cyfleoedd da i bysgotwyr.

Gweinir cwrw traddodiadol.
 

The Angel, Llanidloes

Adeilad du a gwyn wedi’i lleoli ar y stryd fawr yn Llanidloes.  Adeiladwyd ym 1748 gan Oliver Davies.  Adeiladwyd yn rhannol o bren ac mae’r simdde wedi’i chanoli.

Bu’r Siartwyr lleol yn cyfarfod yn yr Angel.

Mae ganddi enw da am werthu cwrw lleol.

Mae atyniadau lleol yn cynnwys Cronfa Ddŵr Llyn Clywedog ac hen bwll blwm y Fan.
 

The Castle Inn, Pengenffordd

Yn wreiddiol, ffermdy mynydd oedd y Castle Inn ond nawr mae’n un o’r tafarnau uchaf yng Nghymru ac yn dwyn ei henw o Gastell Dinas sydd gerllaw.  Saif ynghanol y mynyddoedd Du a cheir cyfleodd gwych i archwilio’r wlad ar droed neu ar gefn beic.  Mae hefyd yn agos at drefi Aberhonddu, Y Gelli Gandryll a’r Fenni.

Mae dŵr ffynnon ei hun yn y dafarn.

Tafarn gwrw traddodiadol sy’n cael ei chymeradwyo’n aml gan CAMRA a fydd wedi’i chynnwys yn The Good Pub Guide a’r AA Pub Guide.

Ar Facebook.
 

Pages

Subscribe to RSS - Powys

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel