Caerdydd

Ffynnon Wen, Caerdydd

Tafarn o’r ail ganrif ar bymtheg a enwyd The Plumber’s Mate ar un adeg.

Tafarn wledig hen ffasiwn â nenfwd isel.

Ymestynwyd y bwyty ym 1997. 

Mae’n hawdd ei chyrraedd o Heol Thornhill a mae digonedd o le i barcio.

Gweinir cwrw traddodiadol.

The Heathcock, Llandaff

Dau dŷ oedd yr Heathcock yn wreiddiol cyn eu troi’n dafarn yn y 1930au.  Cafodd ei henwi’n Black Grouse ar un adeg – aderyn a welir yn poru ar lan yr afon Taf sydd gerllaw.

Wedi’i lleoli ger yr Eglwys Gadeiriol yn Llandaf.  Mae gardd gwrw yn y cefn.

Mae cwrw o fragdai eraill yn cael eu gwerthu trwy gydol y flwyddyn.  Ar un adeg roedd y cyri’n cael ei ddarparu gan y Cinamon Curry House ym Mhontcanna.

The Black Griffin Inn, Lisvane

Tafarn 400 mlynedd oed a saif gyferbyn ag Eglwys St. Denys yn Llysfaen, ar gyrion Caerdydd. Ar un adegtri bwthyn unigol ydoedd cyn eu newid nhw i un adeilad sef y Griffin.

Arhosodd Oliver Cromwell yno yn ystod y Rhyfel Cartref.

Newidiodd yr enw Griffin Inn i’r Black Griffin yn 2005.

Gweinir cwrw traddodiadol.

The Gower, Cardiff

Adeiladwyd yn 1895 ac yn un o’r ychydig dafarnau yng Nghymru lle gwelir bwrdd snwcer – a’r selogion yn filch iawn ohoni!

Tafarn ddiaffordd Brains agorodd yn wreiddiol fel rhan o adeilad gorsaf rheilffordd.

Yn ystod y 1950au roedd y Gower yn gwerthu bwyd a diod o’r bar i’r sawl  oedd yn pasio trwyddo.

Mae’n debyg bod ysbryd dyn o’r enw Henry yn crwydo’r lle.

Dempseys, Cardiff

Tafarn â thema Wyddelig o Oes Fictoria.  Bu’r enwau The Globe a’r Four Bars arni o’r blaen.  Newidiodd i Dempseys ar droad y Mileniwm.

Yn boblogaidd  â chefnogwyr clwb pêl droed Celtic.

Mae ysbrydion yn troedio’r adeilad.

Flora, Caerdydd

Tafarn Fictoraidd sydd wedi’i henwi ar ôl stryd gyfagos.  Un o’r ychydig dafandai yng Nghaerdydd sy’n parhau a’i henw gwreiddiol.

Yn boblogaidd â myfyrwyr.

Adnewyddwyd yn y 1990au cynnar.

Royal Oak, Broadway, Cardiff

Tafarn ag iddi hanes a thema paffio a adeiladwyd yn y 1890au. Ar un adeg defnyddiwyd y gampfa baffio sydd i fyny’r grisiau gan y cyn-bencampwr Pwysau plu y WBO, Steve Robinson. Roedd Peerless Jim Driscoll yn gysylltiedig â’r lle hefyd. Mae nifer o luniau paffio ar y waliau.

Mae’r ffenestri lliw gwreiddiol a celfi gwreiddiol dal yn y bar.

Gardd gwrw.

Cottage, Splott, Cardiff

Adeiladwyd yn 1900 ger y Magic Rounabout

Roedd thema rygbi gref dwy’r lle â memorabilia rygbi ar y waliau cyn iddi gael ei had-drefnu ar ddiwedd y 1990au.

Tafarn gyfeillgar a cynhelir nosweithiau carioca.

Romilly, Cardiff

Tafarn Brains a godwyd fel tŷ coetsys ym 1898.

Ad-dodfefnwyd y lle yn 2001 a gweinir bwyd trwy’r dydd. Mae’r ardd gwrw’n atyniad ychwanegol yn ystod nosweithiau hir misoedd yr haf.

Bwrdd dartiau ond dim bwrdd pŵl.

Cayo, Cardiff

Newidiodd yr enw o’r Apollo Hotel i’r Cayo yn 2001.  Wedi ei henwi ar ôl William Julian Cayo-Evans, arweinydd Byddin Rhyddid Cymru yn y 1960au.

Mae’n boblogaidd â’r Cymry Cymraeg.

Gwaenir cwrw traddodiadol a bwyd da.  Enillodd gwobr tafarn y flwyddyn CAMRA yn 2001-02

Codir pabell yn fynych yn ystod cystadleuaethau chwaraeon.

Tudalennau

Subscribe to RSS - Caerdydd

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel