Haunted pubs

Plough and Harrow, Monknash

Tafarn ym Mro Morgannwg sydd heb newid llawer dros y canrifoedd. Mwy na thebyg bod trawstiau Plough and Harrow y wedi dod o’r llong-ddrylliadau ar y traeth gerllaw. Mae’r adeilad ei hun yn dyddio o’r â drysau o arddull y Tuduraidd. Mae enw’r dafarn yn addas i’r amgylchfyd amaethyddol. Mae tanau pren agored yn croesawu ymwelwyr yn ystod misoedd hir y gaeaf.

Credir bod eneidiau coll y rhai a longdrylliwyd, ac a cadwyd mewn archau drws nesaf, yn troedio’r lle hyd heddiw.

Cartref Clwb Rygbi Wick

Wenvoe Arms, Wenvoe

Recently refurbished in 2011.  Cyril the Gamekeeper, once a regular, is believed to haunt the pub whose photo at one time was displayed in the lounge.

Duke of Wellington, Y Bontfaen

Fe’i hadweinir fel y Ceffyl Du ar un adeg ond newidwyd yr enw gan i’r Dug aros yno tra ar ei ffordd i ymweld â’i ffrind mawr y Cadfridog Picton yng Nghaerfyrddin.

Mae cofnod yn dangos bod bragdy yno yn 1662.  Roedd coetsys yn rhedeg oddi yno tan tua 1850.  Gyda dyfodiad y car ymddangosodd y Duke of Wellington yn llawlyfrau’r AA a Michelin gan godi 12 swllt ar y gyrrwr i dalu am ei lety a tri phryd bwyd.

Mae ysbryd Ladi lwyd yn trigo yno yn ôl y sôn.

Ad-dodrefnwyd diwedd 2011.

Emlyn Arms, Llanarthne

Gyda chau Gwesty’r Gelli Aur, yr Emlyn Arms oedd yr unig dafarn ar agor ym mhentref Llanarthne yn Nyffryn Tywi, Sir Gâr.

Bu’n eiddo i’r Arlwydd Cawdor ar un adeg ac fe’i gelwid y Paxton.  Fe’i hail dodrefnwyd yn ddiweddar a ceir bwyd yn y bar neu’r bwyty.  Mae o fewn tafliad carreg i Ardd Fotaneg Cenedlaethol Cymru.

Mae yno ysbryd yn ôl pob sôn.

Birchgrove, Cardiff

Tafarn Brains ar Heol Caerffili a gymerodd lle hen dafarn y coetsys o’r 1700au.  Ail adeiladwyd y dafarn ym 1923 ac fe’i dyluniwyd gan Syr Peter Thomas, dylunydd Guildhall Abertawe.  Gwnaed ymdrech i gadw’r bar at y gwreiddiol.

Fe’i dinistrwyd gan dân ym 1968 a bu ar gau am flwyddyn a mwy ond wrth lwc fe’i hail-adeiladwyd. 

Cafodd ei henwi’n Dafarn Gymunedol Cymru 2005 gan y Morning Advertiser.

Mae’n meddu ar y Cask Marque am gwrw traddodiadol da a mae wedi’i chynnwys yn The Good Beer Guide. 

The Gower, Cardiff

Adeiladwyd yn 1895 ac yn un o’r ychydig dafarnau yng Nghymru lle gwelir bwrdd snwcer – a’r selogion yn filch iawn ohoni!

Tafarn ddiaffordd Brains agorodd yn wreiddiol fel rhan o adeilad gorsaf rheilffordd.

Yn ystod y 1950au roedd y Gower yn gwerthu bwyd a diod o’r bar i’r sawl  oedd yn pasio trwyddo.

Mae’n debyg bod ysbryd dyn o’r enw Henry yn crwydo’r lle.

Dempseys, Cardiff

Tafarn â thema Wyddelig o Oes Fictoria.  Bu’r enwau The Globe a’r Four Bars arni o’r blaen.  Newidiodd i Dempseys ar droad y Mileniwm.

Yn boblogaidd  â chefnogwyr clwb pêl droed Celtic.

Mae ysbrydion yn troedio’r adeilad.

The Foresters, Cardiff

Tafarn draddodiadol y werin a adeiladwyd ym 1892. Fe’i hadnabwyd fel O’Dwyers yn y 1990au ag iddi thema Wyddelig yn rhedeg drwy’r lle. Bywiog ar ddyddiau gemau pêl droed ac yn denu ambell i gefnogwr rygbi hefyd.

Mae sawl ysbryd yn troedio’r lle yn ôl pob sôn.

Rhan o crôl Treganna

Trist nodi bod y Foresters wedi cau ers 2014

Quarry House, Caerdydd

Mae’r enw’n deillio o’r chwarel gyfagos a defnyddiwyd y cerrig oddi yno i’w hadeiladu a’r ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Saif ar dop St Fagan’s Rise a cheir golygfeydd da o’r ardal o’i chwmpas.

Trawstiau du mewnol, a lle tân agored mawr.

Credir bod ysbryd Ladi lwyd yn troedio’r lle.

The Clive Arms, Cardiff

Tafarn goetsys a adeiladwyd yn oes Fictoraidd a gwelir y cysgodfan i’r ceffylau yn yr ardd hyd heddiw. 

Adeilad swmpus â byrddau pŵl sy’s denu’r hen a’r ifanc.

Mae cyfansoddwr y cyn grŵp Catatonia yn galw heibio’n rheolaidd.

Mae ysbryd dyn mewn lifrai yn cerdded y lle – credir mai Clive o’r India ydyw.

Mae ar daith crôl Treganna.

 

Tudalennau

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel