The Albion, Conwy
Wedi’i lleoli o fewn muriau tref Conwy, adeildadwyd yr Albion tua 1925 a nawr mae’n esiampl wych o dafarn o’r 1920au. Caewyd y dafarn am sawl blwyddyn cyn ei phrynu am £200,000 mewn arwerthiant yn 2012. Heddiw mae 4 bragdy’n gyfrifiol amdani – Bragdy Purple Moose, Porthmadog, Bragdy Great Orme, Llandudno, Bragdy Conwy a Bragdy’r Nant, Llanrwst.
Does dim bwyd ar gael ac erbyn hyn tafarn y llymeitiwr ydyw a gweinir cwrw traddodiadol o fragdai eraill hefyd. Gwelir olion dulliau celf ‘art nouveau’. Mae tri lle tân agored. Gwariwyd tua £100,000 i adfer yr Albion.
Yn unol â thafarndai’r 1920au does dim bwrdd pŵl na blwch sain yno ond cynigir gêmau bwrdd a phapurau dyddiol.
Yn 2012 ymddangosodd adroddiadau gwych ym mhapurau’r Guardian a’r Telegraph pan gynigwyd mai’r Albion, o bosib, oedd y dafarn orau yn y byd! Clod ac anrhydedd mawr!
The Albion, Upper Gate Street, Conwy LL32 8RF
Find a pub
Recently added
Gone but not forgotten - 08 Mar 2016
Gone but not forgotten - 08 Mar 2016
Gone but not forgotten - 27 Feb 2016
Gone but not forgotten - 27 Feb 2016
Gone but not forgotten - 27 Feb 2016
Gone but not forgotten - 27 Feb 2016
Gone but not forgotten - 27 Feb 2016
Gone but not forgotten - 27 Feb 2016