The Three Pigeons, Graigfechan

Un o dafarnau ola'r ardal i osod pympiau ar gyfer y cwrw.  Cyn hynny roedd rhaid cario cwrw mewn jygiau o'r seler a'i weini i gwsmeriaid.

Roedd yn boblogaidd a'r porthmyn oedd yn teithio gyda'u anifeiliaid i'r mart yn Wrecsam.  Mae adeilad wedi bod ar y safle presennol ers o leiaf y 12fed ganrif.  Yn ol y chwedl fe arhosodd Owain Glyndwr yno a oedd ar ei ffordd i'w senedd-dy ym Machynlleth.  Cafodd ei hailadeiladu ym 1777.

Tafarn draddodiadol Gymreig sy'n gweini dewis eang o gwrw traddodiadol hyd heddiw.

Credir bod tri ysbryd yn cerdded y lle, un ohonynt yn hen wr sy'n eistedd ger y tan.

 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel