The Greyhound Inn, Oldwalls

Mae’r  Greyhound yn dyddio i’r 19eg ganrif ac wedi’i lleoli yng ngogledd Penrhyn Gŵyr, nepell o Langennydd a Llanrhidian. Y tafarnwr ym 1858 oedd Samuel  Phillips ac mae’n bur debyg mai tŷ preifat oedd y Greyhound cyn hyn. Daeth y lle’n boblogaidd â  theithwyr a chanddi enw da am danau mawr  a chrasboeth ym misoedd y gaeaf.  Mae hefyd yn boblogaidd â’r ffermwyr lleol.

Ceir dewis da o gwrw traddodiadol, sydd ddim yn syndod gan bod bragdy meicro ei hun gan y Greyhound, sef y Gower Brewing Company.

Gardd gwrw fawr a man chwarae i’r plant.

Contact details: 

The Greyhound Inn, Oldwalls, Llanrhidian, SA3 1HA

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel