Salt, Y Mwmbwls

Saif yn Southend, Y Mwmbwls, dinas Abertawe, ac mae’n dyddio i ddiwedd y 18fed ganrif. Erbyn 1803 fe’i gelwid The George And Dragon. Fel sawl tafarn glan môr bu sawl morwr yn dafarnwr arni.

Y tafarnwr yn y 1870au oedd Frederick Birks. Fe gwynodd sawl gwaith yn y Cambrian News bod cyrff a olchwyd ar y traethau yn cael eu gadael yn stablau’r dafarn!

Y tafarnwr trwyddedig rhwng 1912 a c 1950 oedd John a Catherine Noel.

Cludwyd cwsmeriaid i’r dafarn gan drenau ar ôl yr Ail Rhyfel Byd a bu cryn ad-drefnu yn y 1950au a’r 1960au. Erbyn 2004 Brains oedd berchen y lle a newidiwyd yr enw i Salt.

Contact details: 

Salt, Mumbles Road, Y Mwmbwls, Abertawe SA3 4EH

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel