Horse and Groom, Y Bontfaen

Mae’r adeilad Fictorianaidd crand presennol yn dyddio i 1891 tra’r oedd yr hen Horse and Groom ychydig o ddrysau i ffwrdd i’r dwyrain.  Mae’r cofnod cyntaf ohoni o 1795.  Lewis Jenkins oedd tafarnwr yr hen le rhwng 1878 ac 1891.  Cyn iddi gael ei hadnewyddu yn y 1980au, doedd yr hen le ddim wedi newid llawer mewn canrif, gyda bar, parlwr, cegin, ystafell masnachol, 5 ystafell wely ac ystafell biliards i fyny’r grisiau. 

W.W. Nell and Company, Caerdydd, oedd y bragdy cyntaf yno.  Y tafarnwr rhwng 1914 ac 1926 oedd Samuel Hayter, a’i ewythr oedd y ffotograffydd cyntaf yn  y dre.

Mae dau fwrdd pŵl yn y cefn.  Ceir yno hefyd peiriant cwis a jiwcbocs.

Gardd gwrw yn y cefn.

Contact details: 

Horse and Groom, 19 High Street, Y Bontfaen CF71 7AD
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel