White Lion Inn, Hope

Mae’r White Lion yng nghanol Hope, pentref fechan ger Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Credir i hen ficerdy fod ar y safle ar un adeg a gwelir carreg yn dwyn y dyddiad 1828.  Roedd ‘bier house’ ynghlwm wrth yr adeilad lle cedwid y cerbyd cynhebrwng.

O ddiwedd y 1850au tan y 1880au, Mary Langford oedd y dafarnwraig a bu hefyd yn ffermio 30 erw o dir.

Erbyn 1903 roedd teithiwyr yn gallu aros yn y dafarn.  Roedd dwy ystafell wely a lle i ddau geffyl yn y stabal.  Blwyddyn yn ddiweddarach roedd y Pwyllgor Trwyddeddu wedi dwyn achos yn erbyn y tafarnwr, Alfred Hill, am werthu chwisgi israddol.  Yn ystod y cyfnod hwn Cwmni F.W. Soames, Wrecsam oedd yn darparu’r cwrw.

Price Griffiths oedd y tafarnwr ym 1953 a gosodwyd llain bowlio cyhoeddus tu ôl i’r White Lion.
 

Contact details: 

White Lion, Howarden Road, Hope, Wrecsam  LL12 9NF
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel