Charlton, Pembroke Dock

Mae'r adeilad brics coch sy'n sefyll ar gornel y stryd yn dyddio i ganol y 19eg ganrif ac yn un o nifer o adeiladau Fictoraidd Doc Penfro.  Yn unol a sawl tafarn arall yn y dref mae iddi far hir a fu unwaith yn llawn gwydrau peint gweithwyr y dociau.

Mae enw'r lle yn deillio o deulu'r Meyrick a fu'n gyfrifol am dwf Doc Penfro, a Charlton, sef cyfenw gwreiddiol Thomas Meyrick.

Tafarnwr cyntaf y Charlton oedd James Hancock.  Yn y bar mae paneli rhigog gwreiddiol, gwydr lliw, patrymog a phisdy Twyford's Adam Ant!  Mae pobl yn dal i chwarae shoeha'penny yno.

Mae'r Charlton erioed wedi bod yn dafarn i'r dyn lleol sy'n hoffi ei beint ac yn wir gwarharddwyd menywod tan y 1970au pan newidiodd y gyfraith.

Caeodd y Charlton yn 2001 ond wrth lwc fe ail-agorodd y flwyddyn wedyn.

Mae'n boblogaidd gyda'r bobl leol a Gwyddelod.

 

 

Contact details: 

Charlton, 20 Stryd Bush, Doc Penfro  SA72 6AX

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel