The Brynffynnon Arms, Llanwonno

Mae’r Brynffynnon Arms wedi’i lleoli ym mhentref fechan Llanwynno ger Cymoedd y Rhondda a Chwm Cynon a fu unwaith yn gartrefi i’r diwydiant glo.  Adeilad sy’n dyddio i’r ail ganrif ar bymtheg a fu unwaith yn dafarn fechan i’r glowyr.  Gyda dyfodiad perchnogion newydd yn 2008 gwelodd y Brynffynnon gryn dipyn o newid ond chollodd hi ddim o’i chymeriad.

Ceir dewis eang o gwrw a seidr traddodiadol ac ers 2010 mae wedi’i chynnwys yn y Good Beer Guide gan CAMRA.

Saif Eglwys Sant Gwynno ger y dafarn ac yno y claddwyd Gruffydd Morgan (1700 – 1737), y rhedwr enwog chwim a gafodd ei alw’n Guto Nyth Brân.  Cofir am ei orchestion athletaidd hyd heddiw a dathlir yn Aberpennar yn flynyddol gyda Ras Nos Galan.

Ar Facebook a Trydar @Brynffynnon
 

Contact details: 

The Brynffynon Hotel, Llanwonno, Ynysybwl, Pontypridd, Rhondda Cynon Taff  CF37 3PH

On Facebook a Trydar @Brynffynon1
 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel