The Turf, Wrexham

Adeiladwyd y Turf oddeutu'r 1840au ar Ffordd Yr Wyddgrug.  John Tench oedd y tafarnwrcyntaf ym 1844.  Turf Tavern oedd yr enw gwreiddiol ac fe'i hailenwyd yn Turf Hotel pan fafodd ei hailgodi yn y 1860au.

Yn y dyddiau cynnar defnyddiwyd balconi'r Turf gan y bonheddwyr i wylio gwahanol fathau o chwaraeon a chafwyd golygfeydd gwych oddi yno.  Mae'r rhan fwyaf o gefnogwyr selog clwb pel-droed Wrecsam wedi mwynhau diod yn y fangre adnabyddus hon.  Ar un adeg roedd y dafarn yn cael ei chynnwys mewn sawl cwis gyda'r holwr yn gofyn, 'Enwch ur unig gae pel-droed yn y Gynghrair sy'n cynnwys tafarn'?  Yn anffodus ni ellir gofyn hyn mwy wedi i'r clwb ddisgyn o'r Gynghrair ac agor Eisteddle Pryce Griffiths ym 1999.

Ar un adeg roedd llain bowlio lle saif y maes parcio presennol.

Mae nifer am weld y Turf yn cael ei chofrestru.

 

Locale - Wales: 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel