Pub crawls

Westgate Hotel, Cardiff

Adeilad swmpus ar y gornel. O eiddo Brains a adeiladwyd ymhell dros ganrif yn ôl. Ail adeiladwyd y lle yn y 1950au.

Fe’i had-ddodfrenwyd ar ddechrau’r mileniwm. Fframiwyd clip papur newydd yn dangos eliffant yn galw heibio am ddiod! Mae’r nenfwd yn uchel ac mae enwau tafarndai o gwmpas y bar.

Mae yno fwrdd pŵl a dartiau. Man smygu yn y cefn.

Tafarn olaf ar crôl Treganna

King’s Castle, Cardiff

Adeiladwyd yn y 1880au ac roedd yn dwyn yr enw Ebenezer Riley’s castle ar un adeg.  Roedd un rhan ohoni’n arfer bod yn gapel a gwelir rhan o nenfwd y capel yn yr ystafell gefn.

Roedd iddi arddull dafarn o Lundain yn y 1990au ond mae hynny wedi diflannu erbyn hyn.  Yn boblogaidd â chefnogwyr pêl-droed.

Rhan o crôl Treganna

Canton Hotel, Cardiff

Tafarn can mlynedd oed ag iddi yn enwog fel tafarn y werin a’i thrwydded ar un adeg yn nwylo seren Clwb Dinas Caerdydd, Ronnie Bird un tro.

Yn y 1990au roedd yn enowg am ei dewis o dros 40 chwisgi!

Diflannodd y byrddau pŵl a dartiau gydag adrefniadau.

Tafarn boblogaidd sy’n denu pobl fel aelodau y Super Furry Animals.

Lle digonol i barcio ceir yn y cefn. Mae’r ardd smygu yn y cefn hefyd.

Rhan o crol Treganna

Admiral Napier, Cardiff

Tafarn fawr a bywiog a adeiladwyd yn 1886 Mae'n brysur iawn pan gynhelir gemau pel droed Mae'r bwrdd pwl yn ardal y bar Chwaraeur y gem cerdiau traddodiadol Dou yma. Ers yn gynnar yn 2012 mae gwedd newydd i du allan y Napier gan gynnwys arwydd newydd

The Goscombe, Cardiff

Agorodd tafarn mwyaf diweddar Treganna ym Mawrth 2005.  Cafodd ei newid o fod yn bopty i dafarn at gost o £500,000

Gweinir bwyd trwy’r dydd a mae tai bach i fyny’r grisiau.  Ar un adeg ni chaniatawyd plant ond mae yna groeso iddynt erbyn hyn.  Mae seddi esmwyth ar bwys y bar a mae maes parcio gerllaw.

Rhan o crôl Treganna.

The Insole, Cardiff

Tafarn leol a adeiladwyd o gwmpas 1900au, a saif nepell o Cowbridge Road East.

Mae’r awdur Cymraeg, Howard Springs, yn cyfeirio at yr Insole yn ei nofel ‘Heaven Lies About us’

Mae bwrdd pŵl yn y bar a mae’r lolfa ar ffurf y llythyren L.

Rhan o crôl Treganna ond hawdd ei methu ar ôl ychydig o ddiodydd!

The Clive Arms, Cardiff

Tafarn goetsys a adeiladwyd yn oes Fictoraidd a gwelir y cysgodfan i’r ceffylau yn yr ardd hyd heddiw. 

Adeilad swmpus â byrddau pŵl sy’s denu’r hen a’r ifanc.

Mae cyfansoddwr y cyn grŵp Catatonia yn galw heibio’n rheolaidd.

Mae ysbryd dyn mewn lifrai yn cerdded y lle – credir mai Clive o’r India ydyw.

Mae ar daith crôl Treganna.

 

Ty Pwll Coch, Cardiff

Tafarn can mlynedd oed a enwyd The Cock yn y 1930au.  Mae’r arddull Duduraidd yn deillio o’r cyfnod hwn.

Tafarn i bobl leol a saif ar ben uchaf Cowbridge Road East.  Y dafarn gyntaf ar daith crôl Treganna.

Ar yr arwydd tu fas ceir golygfa o’r Rhyfel Cartre pan lifai’r afon gerllaw yn goch gan waed.

Ailwampiwyd ddwywaith yn y 1990au a mae dwy ale geilys yno nawr.

 

The Corporation Hotel, Cardiff

Safai ffermdy ar y safle gwreiddiol ym 1889. 

Tafarn swmpus â nifer o fyrddau pŵl.  Tafarn i’r ieuenctid sy’n fywiog ar y penwythnosau.

Mae ysbryd merch o oes Fictoria yn cerdded y trydydd llawr a gwelwyd ysbryd menyw o gwmpas y byrddau pŵl.

Gweinir cwrw traddodiadol.

Mae ar daith crôl Treganna.
 

Privacy & Terms | House Rules
E&OE. All content on this site, unless otherwise stated, is Copyright © PubsCymru
website by euan raffel